Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2012

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(78)

 

<AI1>

1.   Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30.

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

 

</AI1>

<AI2>

2.   Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.24

 

 

</AI2>

<AI3>

3.   Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Y dystiolaeth sy’n tanategu’r achos dros ad-drefnu’r GIG yng Nghymru.

 

Dechreuodd yr eitem am 14.33

 

</AI3>

<AI4>

4.   Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cyflwyno Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 15.06

 

</AI4>

<AI5>

5.   Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2011

 

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

</AI5>

<AI6>

6.   Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Gymdeithasol

 

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

</AI6>

<AI7>

7.   Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012

 

Dechreuodd yr eitem am 16.39

 

NDM5032 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012  yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

8.   Dadl ar Rifedd

 

Dechreuodd yr eitem am 16.40

 

NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;

b) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;

c) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu is-bwynt b), a rhoi yn ei le ‘bod angen ymateb ar fyrder i’r hen broblem o safonau rhifedd yng Nghymru, nad yw Gweinidogion addysg blaenorol wedi mynd i’r afael â hi, er mwyn codi safonau rhifedd gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni'r amcan hwn’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Yn is-bwynt b), ar ôl 'gydag ymrwymiad gan' dileu “bob”, ac ychwanegu 'Lywodraeth Cymru a phob'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu bod safonau rhifedd wedi dirywio, ar ôl deuddeg mlynedd ddi-dor o Weinidogion addysg Llafur mewn grym.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant  6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraethau olynol Cymru i godi safonau rhifedd yng Nghymru yn ddigonol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

7

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn afrealistig disgwyl gwelliannau sylweddol ym mherfformiad Cymru yn yr asesiadau nesaf gan PISA, yn awgrymu nad ydynt ar frys i wella safonau rhifedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

26

49

Gwrthodwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Gweinidog i bennu targedau clir ar gyfer gwelliannau mewn mathemateg yng nghanlyniadau PISA 2012.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

7

13

51

Derbyniwyd gwelliant 10.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r grant amddifadedd disgyblion yn ei flwyddyn ganlynol er mwyn parhau i helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

7

39

51

Gwrthodwyd gwelliant 11.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;

b) bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg;

c) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a phob.sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;

d) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd;

e) y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd

 

2. Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.

 

3. Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI8>

<AI9>

Cyfnod Pleidleisio
17.24

Cafodd y cyfarfod ei ohirio a@i ail-gynnull am 17.26 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio.

 

</AI9>

<AI10>

</AI10>

<AI11>

9.   Dadl Fer a ohiriwyd ers 27 Mehefin 2012

 

Dechreuodd yr eitem am 17.32

 

NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:52

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 11 Gorffennaf 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>